Mae Cyn-filwyr GIG Cymru yn wasanaeth sy'n unigryw i Gymru, sy'n galluogi darparu triniaeth seicolegol yn seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol. Mae’n cyflogi therapyddion ar draws pob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru, i ddarparu triniaeth a chymorth i wella iechyd meddwl a lles cyn-filwyr sydd â phroblem iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol.

Am fwy o wybodaeth am staff cyn-filwyr eich byrddau iechyd lleol, cliciwch ar enw'r bwrdd iechyd.

Mae Cyn-filwyr GIG Cymru yn croesawu adborth ac felly os oes gennych unrhyw bryderon, cwynion neu ganmoliaeth ynglŷn â'ch gofal, byddem yn eich annog i siarad â ni'n uniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys pryderon ynghylch unrhyw wahaniaethu neu brofiadau negyddol y gallech fod wedi'u cael mewn perthynas â'ch oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol. Fodd bynnag, os nad ydych yn teimlo'n gyfforddus yn siarad â ni'n uniongyrchol, gallwch gysylltu â Thîm Pryderon y bwrdd iechyd. Am fwy o wybodaeth am roi gwybod am wneud cwyn neu fynegi pryder, ewch i:


   •   Aneurin Bevan (ar gyfer Casnewydd, Caerffili, Torfaen, Blaenau Gwent a Sir Fynwy)
   •   Betsi Cadwaladr (ar gyfer Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam)
   •   Caerdydd a’r Fro (ar gyfer Caerdydd a Bro Morgannwg)
   •   Cwm Taf Morgannwg (ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf)
   •   Hywel Dda (ar gyfer Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion)
   •   Bwrdd Addysgu Powys  (ar gyfer Powys)
   •   Bae Abertawe  (ar gyfer Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot)

Rhowch god post i ddod o hyd i'ch bwrdd iechyd lleol

 

 

Veterans NHSWales Boards 

 

Local Health Boards