Ym Mhowys mae gwasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru yn cael ei ddarparu gan ein Byrddau Iechyd cyfagos (gweler y map isod):

BIP Betsi Cadwaladr  i'r rhai sy'n byw yn Sir Drefaldwyn

BIP Aneurin Bevan ar gyfer y rhai sy'n byw ym Mrycheiniog neu Sir Faesyfed

Bae Abertawe i'r rhai sy'n byw yn Ystradgynlais.

Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth, click on the appropriate health board link cliciwch ar y ddolen ar gyfer y bwrdd iechyd priodol neu cysylltwch ag Ysgrifennydd Hyb Cyn-filwyr GIG Cymru ar 029 2183 2261, neu e-bostiwch admin.vnhswc&Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..

Mae taflen gwasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru ar gyfer Powys ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae posteri hefyd ar gael:

Aneurin Bevan (Aberhonddu a Sir Faesyfed)  / Aneurin Bevan (Brecon and Radnorshire)

Betsi Cadwaladr (Sir Drefaldwyn) /  Betsi Cadwaladr (Montgomeryshire)

Bae Abertawe (Ystradgynlais) / Swansea Bay (Ystradgynlais)

 

 Veterans Powys Outpatient Clinics Map2

 

Am gymorth iechyd meddwl ym Mhowys ffoniwch 111 a phwyswch opsiwn 2.

Mae'r gwasanaeth ar gael i bobl o bob oed, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i sicrhau bod y rhai sydd angen cymorth yn gallu cael gafael arno’n gyflym pan fydd ei angen arnynt fwyaf. Os oes angen i chi siarad â rhywun ar frys am eich iechyd meddwl, neu os ydych chi'n poeni am aelod o'r teulu, ffoniwch GIG 111 Cymru a phwyswch opsiwn 2 i gael eich rhoi mewn cysylltiad uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol, ym Mhowys.

Mae’r rhif yn rhad ac am ddim i’w ffonio o linell dir neu ffôn symudol, hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gredyd yn weddill.

Am ragor o wybodaeth am wasanaethau gofal brys Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, ewch i:

https://biap.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-gofal-brys/