Mae Cyn-filwyr GIG Cymru yn gweithredu trwy fodel 'Prif Ganolfan a Lloerennau'. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cynnal yr 'hyb' cenedlaethol ar gyfer Cyn-filwyr GIG Cymru. Mae'r tîm yn cynnwys Cyfarwyddwr Cyn-filwyr GIG Cymru, Seicolegydd Clinigol Arbenigol Iawn, Therapydd Cyn-filwyr a Seiciatrydd Ymgynghorol. Mae'r tîm hefyd yn cyflogi gweinyddiaeth bwrpasol a Seicolegydd Cynorthwyol.

Cyfarwyddwr Cyn-filwyr GIG Cymru a’r Ymgynghorydd Clinigol Arweiniol yw Dr Neil Kitchiner, sy'n gyfrifol am redeg Cyn-filwyr GIG Cymru o ddydd i ddydd, gan gynnwys goruchwylio gwasanaethau a hwyluso hyfforddiant therapyddion cyn-filwyr. Gwasanaethodd Neil fel Capten y Fyddin Wrth Gefn yn Ysbyty Maes 203 (Cymru), Canolfan y Fyddin Wrth Gefn, Caerdydd rhwng 2011-2014. Cafodd ei anfon i Affganistan Hyd 13 - Ion 14 fel rhan o'r Tîm Iechyd Meddwl Maes Tri Gwasanaeth, OP Herrick 19A. Mae Neil hefyd yn gyfrifol am wasanaeth BIP Caerdydd a'r Fro.

Y pum bwrdd iechyd 'lloeren' yw: Aneurin Bevan, Betsi Cadwaladr, Cwm Taf Morgannwg, Hywel Dda a Bae Abertawe. Mae cyn-filwyr sy'n byw yn ardal Bwrdd Addysgu Powys yn cael eu hatgyfeirio at eu byrddau iechyd cyfagos yn Aneurin Bevan, Bae Abertawe a Betsi Cadwaladr. Ceir manylion y timau hyn yma.

Ar gyfer cyn-filwyr sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg:

Ar gyfer cyn-filwyr sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg:

Cysylltwch â’r tîm ar 029 2183 2261 neu e-bostiwch admin.vnhswc&Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..

Mae taflen gwasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru ar gyfer Caerdydd a’r Fro ar gael yn Gymraeg Yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Tîm BIP Caerdydd a’r Fro

Neil Kitchiner

Dr Neil Kitchiner
Cyfarwyddwr ac Ymgynghorydd Clinigol Arweiniol

Dr Gwen O'Connor

Dr Gwen O’Connor
Seicolegydd Clinigol

Bhushan Vaidya

Dr Bhushan Vaidya
Seiciatrydd Ymgynghorol

Helen Dare

Helen Dare
Seicolegydd Cynorthwyol

Bhushan Vaidya

Charlotte Jacobsen
Therapydd Cyn-filwr

vacant

Melissa Williams
Gweinyddwr Hyb

 

Main Office and Clinic: Cardiff Royal Infirmary

 global link getting here 1