Mae gan lawer o gyn-filwyr salwch corfforol.

Gellir ymdrin ag anafiadau a salwch y rhan fwyaf o gyn-filwyr gan ddefnyddio llwybrau atgyfeirio arferol y GIG. Mae polisi (Cylchlythyr Iechyd Cymru WHC (2017) 41.) a ysgrifennwyd gan Lywodraeth Cymru yn nodi canllawiau ar driniaeth â blaenoriaeth i bensiynwyr rhyfel ar gyfer unrhyw gyflyrau sy'n debygol o fod yn gysylltiedig â'u gwasanaeth.

Gofynnwyd i feddygon teulu ystyried a allai'r cyflwr, yn eu barn glinigol, fod yn gysylltiedig â gwasanaeth milwrol y claf. Mae triniaeth â blaenoriaeth yn berthnasol i gyflyrau sy'n gysylltiedig â gwasanaeth cyn-filwyr YN UNIG. Lle mae hyn yn wir, a chyda chytundeb y claf, dylid ei wneud yn glir yn yr atgyfeiriad. Gallwch gyfeirio eich meddyg teulu at y polisi hwn yma http://www.veteransuk.info/vets_issues/healtcare.htm

Ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, mae Aelod Bwrdd annibynnol wedi’i benodi i weithredu fel Hyrwyddwr Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr. Cyfrifoldeb Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr yw eirioli ar ran cyn-filwyr a phersonél y lluoedd arfog.

Mae hyrwyddwyr ar gyfer cyn-filwyr a'r Lluoedd Arfog wedi'u sefydlu ym mhob bwrdd iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru. Maent yn eirioli dros gyn-filwyr a phersonél y Lluoedd Arfog i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu hadlewyrchu mewn cynlluniau gwasanaeth lleol. Mae hyrwyddwyr yn aelodau anweithredol mewn Byrddau Iechyd Lleol ac fe'u cefnogir gan Gyfarwyddwr Gweithredol arweiniol yn eu rôl.

Mae rhestr o Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.

  • Mae darpariaeth arbennig ar gael ar gyfer rhai problemau corfforol penodol a all effeithio ar gyn-filwyr, megis: Caiff gwasanaethau Adsefydlu’r GIG ar gyfer Prostheteg a Phobl sydd wedi colli Braich neu Goes eu darparu gan dair canolfan arbenigol
  • Caerdydd
  • Abertawe 
  • Wrecsam.
    Maent yn darparu gwasanaethau prostheteg uwch ar gyfer cyn-filwyr sydd ag anaf a gafwyd yn y fyddin ac sy’n byw yng Nghymru, sy’n cyfateb i’r dechnoleg arweiniol a ddarperir gan yr MOD.

  • Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn darparu cefnogaeth i gyn-filwyr sydd â cholled clyw a tinnitus a'r rhai sydd ag anawsterau symudedd. Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Cronfeydd Meddygol Cyn-filwyr: www.rbl.org.uk/vmf

Rhwydwaith Trawma Cyn-filwyr
Sefydlwyd Rhwydwaith Trawma Cyn-filwyr Cymru (VTN Cymru) yn 2019 i sicrhau bod cyn Bersonél y Lluoedd Arfog a ddioddefodd anaf corfforol o ganlyniad i’w gwasanaeth, yn gallu cael y gofal mwyaf amserol a phriodol ar gyfer eu hanafiadau ar ôl cael eu rhyddhau o’r Lluoedd Arfog.

Gellir ymdrin ag anafiadau'r rhan fwyaf o gyn-filwyr gan ddefnyddio llwybrau atgyfeirio arferol y GIG. Fodd bynnag, mae difrifoldeb neu natur anarferol rhai anafiadau ymladd yn golygu bod cyn-filwyr weithiau angen mewnbwn arbenigol nad yw efallai ar gael yn eu bwrdd iechyd.

Mae VTN Cymru yn darparu gwasanaeth canolog i gynorthwyo unigolion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r trydydd sector gyda chyngor perthnasol ar lwybrau atgyfeirio priodol os oes angen cymorth parhaus a gall helpu i sicrhau cyllid priodol lle mae angen atgyfeirio trawsffiniol. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys cydweithrediad clinigwyr arbenigol sydd ag arbenigedd perthnasol a diddordeb mewn darparu gofal i gyn-filwyr.

Gall meddygon teulu, rhai clinigwyr eraill, a sefydliadau trydydd sector wneud atgyfeiriadau i’r rhwydwaith, lle mae angen nas diwellir ar gyfer asesiad arbenigol neu driniaeth ar gyfer cyflyrau corfforol sy’n ymwneud â gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Patient Facing flow 

Os ydych chi'n gyn-filwr ag anghenion corfforol cymhleth sy'n deillio o'ch cyfnod yn gwasanaethu, dylech allu derbyn yr holl ofal sydd ei angen arnoch drwy sianeli arferol y GIG, gan gynnwys eich meddyg teulu ac arbenigwyr yn eich ysbyty lleol.

Os ydych chi'n poeni bod angen mewnbwn mwy arbenigol arnoch, gallwch drafod gyda'ch meddygon a ddylid atgyfeirio eich achos at y VTN.

Rydym yn eich annog yn gryf i ymgysylltu â'r VTN trwy eich tîm meddygol, gan mai dim ond trwyddyn nhw y bydd y VTN yn gallu deall eich achos.
Fodd bynnag, mae croeso i chi gysylltu â'r VTN yn uniongyrchol os ydych chi'n teimlo na allwch wneud hyn.

Gellir gwneud ymholiadau ac atgyfeiriadau trwyMae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.