Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr yn wasanaeth arbenigol â blaenoriaeth i unigolion sydd wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ar unrhyw adeg yn eu bywydau ac sy’n profi anawsterau iechyd meddwl sy’n ymwneud yn benodol â’u gwasanaeth milwrol.
Mae pob Bwrdd Iechyd Lleol (BILl) wedi penodi clinigwr profiadol fel Therapydd Cyn-filwyr (VT) sydd â diddordeb mewn problemau iechyd (meddwl) milwrol neu brofiad ohonynt. Bydd y VT yn derbyn atgyfeiriadau gan staff gofal iechyd, meddygon teulu, elusennau cyn-filwyr a hunanatgyfeiriadau gan gyn-filwyr. Gellir cysylltu â'r tîm priodol drwy fynd i dudalen eich Bwrdd Iechyd Lleol ar y wefan hon Bwrdd Iechyd Lleol ar y wefan hon..
Bydd apwyntiadau'n cael eu trefnu mor agos â phosibl i gartref y cyn-filwr mewn lleoliad addas. Nid yw'r gwasanaeth yn gallu ymateb i atgyfeiriadau brys. Dylai cyn-filwyr mewn argyfwng gysylltu â'u meddyg teulu neu'r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau. Mae seiciatrydd ar alwad ym mhob Uned Damweiniau ac Achosion Brys mewn Ysbytai Cyffredinol Ardal.
Fel arall, ffoniwch y llinell gymorth 24/7: FFONIWCH 0800 132 737.
Yn dilyn yr asesiad gall y cyn-filwr gael cynnig triniaeth gan y VT neu ei atgyfeirio ymlaen at dimau neu adrannau eraill y GIG am driniaeth bellach. Bydd y VT hefyd yn atyfeirio at elusennau cyn-filwyr am gymorth gyda rheoli dyledion, budd-daliadau a hawliadau iawndal pensiwn rhyfel/lluoedd arfog fel y nodir. Nid yw'r gwasanaeth yn gallu darparu diagnosis ar gyfer hawliadau Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog.
Os ydych chi'n gyn-filwr sydd eisiau cael eich atgyfeirio at GIG Cymru i Gyn-filwyr, dewiswch y botwm isod;
FFURFLEN ATGYFEIRIO i GYN-FILWYR
Os ydych chi'n gwneud atgyfeiriad ar ran cyn-filwr, dewiswch y botwm ar gyfer y ffurflen Atgyfeirio ar Ran Cyn-filwyr;
FFURFLEN ATGYFEIRIO AR RAN CYN-FILWYR