Mae gan lawer o gyn-filwyr salwch corfforol. Gellir ymdrin ag anafiadau a salwch y rhan fwyaf o gyn-filwyr gan ddefnyddio llwybrau atgyfeirio arferol y GIG. Mae polisi gan GIG Cymru i gynnig mynediad â blaenoriaeth i ofal iechyd i gyn-filwyr. Gallwch ddod o hyd i'r polisi perthnasol yma.
Ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru, mae Aelod Bwrdd annibynnol wedi’i benodi i weithredu fel Hyrwyddwr Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr a chaiff ei gefnogi gan aelod o’r Bwrdd Gweithredol. Cyfrifoldeb Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr yw eirioli ar ran cyn-filwyr a phersonél y lluoedd arfog. Mae mwy o wybodaeth am Hyrwyddwyr y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr ar gael yma.
Mae darpariaeth arbennig ar gael ar gyfer rhai problemau corfforol penodol a all effeithio ar gyn-filwyr, megis:
- Caiff gwasanaethau Adsefydlu’r GIG ar gyfer Prostheteg a Phobl sydd wedi colli Braich neu Goes eu darparu gan dair canolfan arbenigol yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam. Maent yn darparu gwasanaethau prostheteg uwch ar gyfer cyn-filwyr sydd ag anaf a gafwyd yn y fyddin ac sy’n byw yng Nghymru, sy’n cyfateb i’r dechnoleg arweiniol a ddarperir gan yr MOD.
- Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn darparu cefnogaeth i gyn-filwyr sydd â cholled clyw a tinnitus a'r rhai sydd ag anawsterau symudedd. Mae mwy o wybodaeth am y gefnogaeth hon ar gael yma.
Rhwydwaith Trawma Cyn-filwyr
Sefydlwyd Rhwydwaith Trawma Cyn-filwyr Cymru (VTN Cymru) yn 2019 i sicrhau bod cyn Bersonél y Lluoedd Arfog a ddioddefodd anaf corfforol o ganlyniad i’w gwasanaeth, yn gallu cael y gofal mwyaf amserol a phriodol ar gyfer eu hanafiadau ar ôl cael eu rhyddhau o’r Lluoedd Arfog.
Most veterans’ injuries can be dealt with using routine NHS referral pathways. Gellir ymdrin ag anafiadau'r rhan fwyaf o gyn-filwyr gan ddefnyddio llwybrau atgyfeirio arferol y GIG. Fodd bynnag, mae difrifoldeb neu natur anarferol rhai anafiadau ymladd yn golygu bod cyn-filwyr weithiau angen mewnbwn arbenigol nad yw efallai ar gael yn eu bwrdd iechyd.
Mae VTN Cymru yn darparu gwasanaeth canolog i gynorthwyo unigolion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a'r trydydd sector gyda chyngor perthnasol ar lwybrau atgyfeirio priodol os oes angen cymorth parhaus a gall helpu i sicrhau cyllid priodol lle mae angen atgyfeirio trawsffiniol. Mae'r rhwydwaith yn cynnwys cydweithrediad clinigwyr arbenigol sydd ag arbenigedd perthnasol a diddordeb mewn darparu gofal i gyn-filwyr.
Gwybodaeth atgyfeirio
Gall meddygon teulu, clinigwyr eraill, a sefydliadau trydydd sector wneud atgyfeiriadau i’r rhwydwaith, lle mae angen nas diwellir ar gyfer asesiad arbenigol neu driniaeth ar gyfer cyflyrau corfforol sy’n ymwneud â gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog fel y nodir isod-
Mae'r rhwydwaith trawma yn annog cyn-filwyr yn gryf i gael eu hatgyfeirio drwy eu meddyg teulu a meddygon eraill. Fodd bynnag, gall cyn-filwyr anfon e-bost atynt yn uniongyrchol os ydynt yn teimlo nad yw hyn yn bosibl.
Referrals via Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld..